Sensws 1891

Dyma’r teulu yn ymddangos ar sensws 1891. Bryd hynny yn byw ym Maengwyn, plwyf Llandwrog.

sensws1891.jpg

A’i dyma’r un Maengwyn (Llanwnda) a oedd yn gartref i fy nghyfaill Manon o’r ysgol, sy’ dafled carreg o Landwrog? Diddorol gweld bod anghysondeb rhwng oed Richard a Jane Owen o’i gymharu â sensws 1901. O safbwynt hel achau mae’n dda nodi bod oed y plant yn gyson.

Bron Eryri Terrace

O edrych yn fanylach ar sensws 1901 llwyddais i ddadansoddi enw cartref Richard a Jane Owen, sef Broneryrri Ter. Mae Bron Eryri Terrace yn dal i sefyll yn Rhosgadfan. Dyma fap o’r lleoliad:

 broneryri.jpg

Mae’n debyg taw dyma ble ganwyd William Owen.

Teulu ym Mhennsylvania?

pennsylvania_flag.gif             

Dyma lythyr oddi wrth Lewis Jones o Harveys Lake, Pennsylvania, dyddiedig Ionawr 18, 1960.

harveyslake.jpg            harveyslakeamlen.jpg

Hello folks

How are you all fine and in best of health I hope as it leaves us good at present. You will be surprised to hear from me as it was through Cousin Susie Thyler [?] of New York Mills N.Y. USA I got your address. I am related to you. My mother’s name was Mary Jones formerly Owens. She passed away several years ago. 9 years ago she was 83 years old. My father got killed in the mines 37 years ago. I have 2 brothers and 2 sisters. Well here the story now my mother had a brother who went to Australia and she never heard from him so its possible that you are children of his so that’s why I am writing. Mother’s maiden name was Lewis Owen. Her father’s name was Lewis Owen. Her mother’s name was Jane Owen. I still have a photo of my Grandfather Owens. I was born in Bryn Helig, Llanfairfechan [?]. I was born in April 29, 1893 so I will be 67 this coming April. This will seem strange now to get in touch with relations I never knew. I served in First World War and was in Canadian Army and so some relations in Pennsylvania and N. Wales. I corresponding with John Jones relation on my father’s side. I have his address but haven’t heard from him for over 3 years. I sent photos to him twice never got an answer. I hope I may hear from you folks so will close with best wishes for prosperous New Year. Will be glad to hear from you anytime.

Yours as ever Cousin Lewis John Jones

Dyma ddadansoddiad sydyn:

Lewis John Jones (1893-), yn enedigol o Lanfairfechan, yn byw yn Harveys Lake, Pennsylvania yn 1960. Roedd ganddo ddau frawd a dwy chwaer. Lladdwyd ei dad mewn cloddfa yn 1923. Roedd yn aelod o fyddin Canada yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mary Jones (1868-1951?) oedd ei fam, enw morwynol Owen, yn ferch i Lewis a Jane Owen. Roedd ganddi frawd a ymfudodd i Awstralia.

Roedd gan Lewis John Jones gyfneither yn New York Mills o’r enw Susie Thyler[?] a pherthynas o’r enw John Jones o ochr ei dad a oedd yn byw yng Nghymru.

Sensws 1901 Census

census1901.jpg

Dyma’r sensws am 1901 sy’n cofnodi bodolaeth teulu William Owen. Mae’n debyg nad oedd William Owen wedi cyrraedd mewn da bryd i’w gofnodi. Gellir darllen:

Richard Owen: Head (Married), 40; labourer in quarry; ganed: Anglesey, Llanidan

Jane Owen: Wife (Married), 35; ganed: Pwllheli

Richard Owen: Son (Single), 20; ganed: Caernarvon, Llanwnda

Lewis Owen: Son (Single), 17; ganed: Caernarvon, Llanwnda

Hugh Owen: Son, 13; ganed: Caernarvon, Llanwnda

Laura Owen: Daughter, 8; ganed: Caernarvon, Llanwnda

Mary Owen: Daughter, 3; ganed: Caernarvon, Llanwnda

census1901manylyn.jpg

Syndod i mi fod fy nheulu yn frodor o Sir Fôn a Bwllheli.

Tŷ haf William Owen, 80au cynnar

Dyma lun o dŷ haf William Owen. Roedd William yn byw gyda ni ym Mryn Idan, Ffordd y Gogledd, Caernarfon. Yn ystod yr haf roedd o’n hoffi cysgu yn y garafan statig yn yr ardd gefn. Hoffi teimlo’n annibynnol siwr o fod. Yr unig beth dwi’n ei gofio am y garafan oedd iddi fod yn llawn geraniums yn colli petals coch ym mhobman. Dw’ i hefyd yn cofio coeden plyms ger y drws yn nofio mewn morgryg. Beth bynnag, nes i chwilio Google am “Bryn Idan” ac ambell i hit hanes lleol yn ymddangos. Roedd yn gartref i Henry Owen yn 1918 a Miss K. G. Williams a fynychodd Fancy Dress Ball yn y Guild Hall, Caernarvon, Ionawr 1909. Erbyn hyn mae Bryn Idan yn gartref i’r henoed.

Carafan

Jane Owen, mam William Owen

Dyma ffotograff o Jane Owen, ganed 1865. Pwy sa’n meddwl taw dyma fy hen nain – dw’ i ddim yn ddigon hen i hynny! Llaw pwy sydd ar ei hysgwydd? William tybed?

Jane Owen