Dyddiadau penblwydd

penblwyddi.jpg

Dyma daflen sy’n adnodd gwych ar gyfer hel achau. Mae’n nodi penblwyddi aelodau teulu William Owen. Gellir dyddio’r rhestr i 1937-1939.

“R. R. Owens, October 26, 1880 – 57 years” – Pyw?

“L. R. Owens, June 25, 1884 – 54 years” – Pwy?

“H. R. Owens, Feb. 28, 1889 – 49 years” – Pwy?

“Laura Owens, Jan. 4, 1893 – 44 years” – Anti Laura fy mam.

“W. R. Owens, June 21, 1901 – 37 years” – William Owen?

“R. R. Owens, Oct. 22, 1905 – 32 years” – Pwy?

“Jinnie, Dec. 13, 1911 – 26 years” – Anti Jinnie, cofio hi’n iawn. Cofio mynd i’w gweld yn Rhosgadfan. Daeth hi draw i dreulio un Nadolig gyda ni yng Nghaernarfon.

“Priodas mam, Feb 1901″ – Mam pwy? Mam William Owen?

“Annie Owen, Aug. 1st, 1914″ – Nain.

“Gaynor Pierce, Nov. 14, 1932″ – Anti Gayn (hanner-chwaer mam), Tregarth, a farwodd y llynedd.

“R. Pierce, Dec. 27, 1935″ – Yncl Robin (hanner-brawd mam), sydd yn briod a Gwenda ac yn byw ym Mhontnewydd.

“W. Pierce, Aug. 4th, 1937″ – Yncl Wil (hanner-brawd mam), sydd wedi priodi Enid ac yn byw ym Mhenrhosgarnedd, Bangor.

“Mary Owen, Feb. 19, 1944″ – Mam, sy’n byw ger Wrecsam.

Annie Owen yn yr ysbyty

annie-ysbytu.jpg

Dyma nodyn yn y papur newydd am fy nain, Annie Owen, a farwodd yn ifanc iawn o gancr ym 1958. Mae’r unig lun ohoni wedi’i fframio ar wal fy mam.

 ”PERSONAL – Mrs. Annie Owen, Bro Cadfan, is a patient at the St. David’s Hospital, Bangor.”