Murlun Ed Povey, Caernarfon (1979)

Rhywbeth arall nad yw’n deillio o’r siwtces… Dyma ffotograff o furlun gan Ed Povey, Stryd y Bont, Caernarfon. Perthnasol am ei fod yn cynnwys portread o William Owen. Roedd William Owen yn treulio’i oriau yn eistedd ar fainc gyferbyn â’r arlunydd ar waith yn 1979.

Diolch i www.anglesey.info am ganiatad i atgynhyrchu’r ddelwedd.

Tŷ haf William Owen, 80au cynnar

Dyma lun o dŷ haf William Owen. Roedd William yn byw gyda ni ym Mryn Idan, Ffordd y Gogledd, Caernarfon. Yn ystod yr haf roedd o’n hoffi cysgu yn y garafan statig yn yr ardd gefn. Hoffi teimlo’n annibynnol siwr o fod. Yr unig beth dwi’n ei gofio am y garafan oedd iddi fod yn llawn geraniums yn colli petals coch ym mhobman. Dw’ i hefyd yn cofio coeden plyms ger y drws yn nofio mewn morgryg. Beth bynnag, nes i chwilio Google am “Bryn Idan” ac ambell i hit hanes lleol yn ymddangos. Roedd yn gartref i Henry Owen yn 1918 a Miss K. G. Williams a fynychodd Fancy Dress Ball yn y Guild Hall, Caernarvon, Ionawr 1909. Erbyn hyn mae Bryn Idan yn gartref i’r henoed.

Carafan

Jane Owen, mam William Owen

Dyma ffotograff o Jane Owen, ganed 1865. Pwy sa’n meddwl taw dyma fy hen nain – dw’ i ddim yn ddigon hen i hynny! Llaw pwy sydd ar ei hysgwydd? William tybed?

Jane Owen

John Chwilog a Jack Elis Llanrug

john-chwilog.jpg

Dyma ffotograff o “John Chwilog” a “Jack Elis Llanrug”. Ffrindiau? Teulu?

William Owen yn fachgen ifanc

william.jpg             

Dyma lun o fy nhaid, William Owen, yn fachgen ifanc. Dw’i ‘rioed wedi gweld llun cynnar ohono tan rwan. Llygaid, trwyn a gwefusau yn union fel rwy’n cofio. Direudus.

william-mawr.jpg