Llythyr RMS Queen Mary, Medi 11, 1961

queenmary1.jpg

Wel dyma chi ddiddorol. Llythr gan ffrind at Mary Owen, tra’n hwylio ar long RMS Queen Mary am Efrog Newydd. Mae’n debyg roedd Mary Owen yn gwerthu hufen ia gyferbyn a Chastell Caernarfon pan gwrddodd a Mrs. Smith o’r Unol Daliaethau ym 1961.

queenmary2.jpg

Dyddiadau penblwydd

penblwyddi.jpg

Dyma daflen sy’n adnodd gwych ar gyfer hel achau. Mae’n nodi penblwyddi aelodau teulu William Owen. Gellir dyddio’r rhestr i 1937-1939.

“R. R. Owens, October 26, 1880 – 57 years” – Pyw?

“L. R. Owens, June 25, 1884 – 54 years” – Pwy?

“H. R. Owens, Feb. 28, 1889 – 49 years” – Pwy?

“Laura Owens, Jan. 4, 1893 – 44 years” – Anti Laura fy mam.

“W. R. Owens, June 21, 1901 – 37 years” – William Owen?

“R. R. Owens, Oct. 22, 1905 – 32 years” – Pwy?

“Jinnie, Dec. 13, 1911 – 26 years” – Anti Jinnie, cofio hi’n iawn. Cofio mynd i’w gweld yn Rhosgadfan. Daeth hi draw i dreulio un Nadolig gyda ni yng Nghaernarfon.

“Priodas mam, Feb 1901″ – Mam pwy? Mam William Owen?

“Annie Owen, Aug. 1st, 1914″ – Nain.

“Gaynor Pierce, Nov. 14, 1932″ – Anti Gayn (hanner-chwaer mam), Tregarth, a farwodd y llynedd.

“R. Pierce, Dec. 27, 1935″ – Yncl Robin (hanner-brawd mam), sydd yn briod a Gwenda ac yn byw ym Mhontnewydd.

“W. Pierce, Aug. 4th, 1937″ – Yncl Wil (hanner-brawd mam), sydd wedi priodi Enid ac yn byw ym Mhenrhosgarnedd, Bangor.

“Mary Owen, Feb. 19, 1944″ – Mam, sy’n byw ger Wrecsam.

A wyddoch chwi?

a-wyddoch-chwi.jpg

Cwestiynnau a anfonodd Mary Owen i’r Cymro… beth yw’r atebion?

1. Beth oedd enw’r llong yr hwyliodd Christopher Columbus ynddi i’r America?

2. Pwy a ddyfeisiodd y teleffon?

3. Pa un yw’r bont hwyaf yn y byd?

4. Ym mha le y ganed (a) W. J. Gruffydd; (b) T. H. Parry-Williams; (c) W. Ambrose Webb?

5. Beth oedd enw bedydd (a) Eifion Wyn; (b) Pedrog; (c) Eben Fardd?

Mary Owen (Rhif 3), 5 Bro Cadfan, Rhosgadfan [ca. 1950]

Stori yw bywyd

stori-bywyd.jpg

Pennill a anfonfwyd gan Mary Owen, i’r Cymro tybiwn i. Dw’n i ddim faint oedd ei hoed, yn sicr nid 3. Beth mae (3) yn golygu? Y drydedd safle? A’i Mary Owen ysgrifennodd y bennill? Pryd? Diwedd y 40au?

“Stori yw bywyd mewn tair cyfrol, A fu, y sydd, a’r un dyfodol. Y gyntaf wedi ei gorffen sydd; Darllennir yr ail o ddydd i ddydd; Y drydedd – llyfr seliedig yw, A’r allwedd iddo yn llaw Duw”.

Mary Owen (3), 5 Bro Cadfan, Rhosgadfan, [ca. 1950]