Taid arall, nid o’r siwtces

Carreg bedd Idris Hughes

Maddeuwch i mi, ond dyma garreg bedd fy nhaid o ochr fy nhad …. y tro cyntaf i mi’i weld. Trist.

Bedd Jane, Richard, Hugh a Lizzie Owen

037

Bedd William Owen

2009-09-20
2009-09-20

Dyma garreg bedd William Owen, a’i wraig Annie, fy nain a farwodd yn 1958. Roedd yn sioc i weld nad oedd Capel Hermon, neu Capel Foel, yno bellach.

Mynwent Capel hermon, Rhosgadfan, 2009-09-20

Llun newydd o William Owen

William Owen

Coeden Deulu

Dyma’r goeden deulu hyd yn hyn:

Coeden Deulu

Coeden deulu (1)

Ers tro byd. Dyma f’ymdrech gyntaf ar lunio coeden deulu. Mae’r siwtces wedi darparu llu o wybodaeth i mi wybod ble i chwilio yn y sensws a dyma’r canlyniadau.

Coeden deulu 10/2007 (MS Word)

Y fersiwn gyntaf yw hon, bydd uwchraddiad yn dilyn. Dw’ i’n meddwl mod i wedi darganfod cenhedlaeth gynharach… rhaid i chi fod yn amyneddgar er mwyn i mi gael cyfle i ddadansoddi’r holl wybodaeth.

Pethau diddorol am y coeden deulu uchod:

Roedd mam William Owen, a oedd yn frodor o Bwllheli, yn gweithio fel morwyn yn Sir Fon ble ganwyd tad William. Roedd Jane yn gweithio i’w hewythr William Hughes ac mae fy nychymyg yn gobeithio wnaeth y ddau gwrdd mewn rhyw sefyllfa ddiniwed a rhamantus. Siwr roedd symud o Bwllheli i Sir Fon yn antur mawr bryd hynny. Beth bynnag, dyna ni am y tro.

Llwybr Llwyn Celyn

llwyncelyn.jpg

Llythyr at William Owen parthed Llwybr Llwyn Celyn, ger Cerrig Sais, 1953. Diddorol am fy mod yn byw mewn pentref o’r enw Llwyncelyn, ger Aberaeron. Dyma chi Ifor Williams, Clarc Cyngor Plwyf Llanwnda, yn rhoi William Owen yn ei le.

Halen yn dda i chi wedi’r cwbl

hints-and-recipes.jpg

Dyma golofn sy’n bloeddio gogoniant halen. Pwy ddwedodd bod halen yn ddrwg i chi? Diolch byth mod i wedi dod ar draws hwn rwan – mae’r cadeiriau yn y parlwr wedi bod yn slacio ers misoedd. A dim rhyfedd bod y Gold Blend mor ddiflas.

Claddu Mary, chwaer William Owen

hermon.jpg

Dyma dderbyneb i gladdu Mary Hughes (*chwaer* William Owen) yn Nghapel Hermon, Rhosgadfan, dyddiedig 8 Ionawr 1938. £1.10. Pwy oedd Mary felly? Siwr bydd Mary yn ymddangos o’i bryd i’w gilydd wrth i mi dyrchu…

Croeso i Siwtces Taid

Croeso i fy mlog ble fyddaf yn agor llwybyr i fywyd fy nhaid, William Owen (1901-1986), drwy dyrchu drwy hen siwtces llawn papurau, ffotograffau a llythyron. Darganfyddwyd y siwtces yng nghwpwrdd fy mam, Mary Hughes. Roedd William Owen yn frodor o Rhosgadfan, Arfon.