Tŷ haf William Owen, 80au cynnar

Dyma lun o dŷ haf William Owen. Roedd William yn byw gyda ni ym Mryn Idan, Ffordd y Gogledd, Caernarfon. Yn ystod yr haf roedd o’n hoffi cysgu yn y garafan statig yn yr ardd gefn. Hoffi teimlo’n annibynnol siwr o fod. Yr unig beth dwi’n ei gofio am y garafan oedd iddi fod yn llawn geraniums yn colli petals coch ym mhobman. Dw’ i hefyd yn cofio coeden plyms ger y drws yn nofio mewn morgryg. Beth bynnag, nes i chwilio Google am “Bryn Idan” ac ambell i hit hanes lleol yn ymddangos. Roedd yn gartref i Henry Owen yn 1918 a Miss K. G. Williams a fynychodd Fancy Dress Ball yn y Guild Hall, Caernarvon, Ionawr 1909. Erbyn hyn mae Bryn Idan yn gartref i’r henoed.

Carafan

William Owen a Galina Ulanova

 soviet1.jpg             ulanova.jpg

Llythyr gan “Gyfaill” at William Owen, ganol y 50au:

soviet2.jpg

“Hoffais eich llythyr yn “Y Cymro” a phenderfynais anfon y “Worker” a’r “Soviet Weekly” i chwi. Darllenwch hwy yn ofalus ond a meddwl agored… —– Cyfaill.”

Pwy sa’n meddwl bod y “Soviet Worker” wedi cyrraedd Rhosgad? Yn anffodus nid yw’r siwtces yn cynnwys copiau o’r cylchgronau. Mae’r nodyn cyfarch wedi’i ysgrifennu ar gefn taflen “Friendship month” y “Soviet Weekly” sy’n cynnwys manylion cystadleuaeth i ennill broshyr am Galina Ulanova.

soviet.jpg

Pwy oedd “Cyfaill”? Beth oedd cynnwys y llythyr i’r Cymro?

National Registration Identity Card William Owen

identity-card.jpg

Er o ddiddordeb hanesyddol, mae’r cerdyn yma hefyd yn wych am gofnodi ble roedd William Owen yn byw yn y cyfnod 1943-1949:

identity-card-2.jpg

28 Mai, 1943: Tyddyn Difyr, Rhosgadfan.

22 Ebrill, 1947: Pantiau, Rhosgadfan.

5 Rhagfyr, 1949: Cerrig Sais, Rhosgadfan.

Dyddiadau penblwydd

penblwyddi.jpg

Dyma daflen sy’n adnodd gwych ar gyfer hel achau. Mae’n nodi penblwyddi aelodau teulu William Owen. Gellir dyddio’r rhestr i 1937-1939.

“R. R. Owens, October 26, 1880 – 57 years” – Pyw?

“L. R. Owens, June 25, 1884 – 54 years” – Pwy?

“H. R. Owens, Feb. 28, 1889 – 49 years” – Pwy?

“Laura Owens, Jan. 4, 1893 – 44 years” – Anti Laura fy mam.

“W. R. Owens, June 21, 1901 – 37 years” – William Owen?

“R. R. Owens, Oct. 22, 1905 – 32 years” – Pwy?

“Jinnie, Dec. 13, 1911 – 26 years” – Anti Jinnie, cofio hi’n iawn. Cofio mynd i’w gweld yn Rhosgadfan. Daeth hi draw i dreulio un Nadolig gyda ni yng Nghaernarfon.

“Priodas mam, Feb 1901″ – Mam pwy? Mam William Owen?

“Annie Owen, Aug. 1st, 1914″ – Nain.

“Gaynor Pierce, Nov. 14, 1932″ – Anti Gayn (hanner-chwaer mam), Tregarth, a farwodd y llynedd.

“R. Pierce, Dec. 27, 1935″ – Yncl Robin (hanner-brawd mam), sydd yn briod a Gwenda ac yn byw ym Mhontnewydd.

“W. Pierce, Aug. 4th, 1937″ – Yncl Wil (hanner-brawd mam), sydd wedi priodi Enid ac yn byw ym Mhenrhosgarnedd, Bangor.

“Mary Owen, Feb. 19, 1944″ – Mam, sy’n byw ger Wrecsam.

William Owen yn fachgen ifanc

william.jpg             

Dyma lun o fy nhaid, William Owen, yn fachgen ifanc. Dw’i ‘rioed wedi gweld llun cynnar ohono tan rwan. Llygaid, trwyn a gwefusau yn union fel rwy’n cofio. Direudus.

william-mawr.jpg