Maddeuwch i mi, ond dyma garreg bedd fy nhaid o ochr fy nhad …. y tro cyntaf i mi’i weld. Trist.
Maddeuwch i mi, ond dyma garreg bedd fy nhaid o ochr fy nhad …. y tro cyntaf i mi’i weld. Trist.
Dyma garreg bedd William Owen, a’i wraig Annie, fy nain a farwodd yn 1958. Roedd yn sioc i weld nad oedd Capel Hermon, neu Capel Foel, yno bellach.
Ers tro byd. Dyma f’ymdrech gyntaf ar lunio coeden deulu. Mae’r siwtces wedi darparu llu o wybodaeth i mi wybod ble i chwilio yn y sensws a dyma’r canlyniadau.
Coeden deulu 10/2007 (MS Word)
Y fersiwn gyntaf yw hon, bydd uwchraddiad yn dilyn. Dw’ i’n meddwl mod i wedi darganfod cenhedlaeth gynharach… rhaid i chi fod yn amyneddgar er mwyn i mi gael cyfle i ddadansoddi’r holl wybodaeth.
Pethau diddorol am y coeden deulu uchod:
Roedd mam William Owen, a oedd yn frodor o Bwllheli, yn gweithio fel morwyn yn Sir Fon ble ganwyd tad William. Roedd Jane yn gweithio i’w hewythr William Hughes ac mae fy nychymyg yn gobeithio wnaeth y ddau gwrdd mewn rhyw sefyllfa ddiniwed a rhamantus. Siwr roedd symud o Bwllheli i Sir Fon yn antur mawr bryd hynny. Beth bynnag, dyna ni am y tro.
Rhywbeth arall nad yw’n deillio o’r siwtces… Dyma ffotograff o furlun gan Ed Povey, Stryd y Bont, Caernarfon. Perthnasol am ei fod yn cynnwys portread o William Owen. Roedd William Owen yn treulio’i oriau yn eistedd ar fainc gyferbyn â’r arlunydd ar waith yn 1979.
Diolch i www.anglesey.info am ganiatad i atgynhyrchu’r ddelwedd.